Cystadleuaeth barddoniaeth PENfro 2017

Canlyniadau terfynol:

Cystadleuaeth barddoniaeth PENfro

Cyntaf: Hefin Wyn
Ail: Geraint Roberts
Cydradd Drydedd: Carwyn Eckley, Ffion Haf and Megan Lewis
Canmoliaeth Uchel: Christine Williams/Gwenan Jenkins Jones

 

Chwedl  gan Hefin Wyn

Llithra llaid Llyn y fan rhwng fy mysedd,
sgeintia pelydryn o fachlud ar grych y dŵr
yn warant o gyfoeth cof yr hil
wrth i gryd oesol drywanu ‘nghalon.

Yma yng nghwmni’r gwlithod
disgwyliaf ddynionach Rhys Grug
i godi’n gymysg â’r clau
i’m bywiogi drachefn.

Dônt yn glegar i gyd
yng nghysgod gloyw’r lloer,
na ddiffydd yr un hud na lledrith
tra pery breuddwyd a dyheu.

O’u hôl cwyd lodes glaerwyn
yn ysgafn ysgwyd diferion o’u plethi aur,
ei thraed noeth ddawnsia heb wanu’r pridd
wrth ddynesu’n dalog ataf.

Wrth ymestyn am ei harffed,
fe’m rhybuddia rhag ei chyffwrdd,
ar boen fy ngeni, neu fe ddiflanna i’r gwyll
a’m gadael yn ffrwcsyn ffol.

Minnau ddeuthum i ddolenni adnabod
ym mynwes cred ein creu,
i agor cwysi o hud ar fawnog
i’m cynnal ar dalar y tu hwnt i’r fagddu.

Pan dyr gwlith y bore ar lygad y dydd
i ddeffro hen wae a chynnau amheuon,
minnau enciliaf o’r mynydd i’r gelli
heb deimlo na chusan na chledd.

Yn Esgair Llaethdy draw erys cyfrinach
anwadalwch cariad mab a merch,
minnau fyddaf glaf o serch a swyn
hen ramant na rydd lonydd i’m.

Syllaf o bell a minnau’n agos,
llithro o’m gafael wna llaid Llyn y fan,
wrth i’r lloer oeri a’r haul gynhesu,
ni chaf ond blas o eirias gynfyd.

Hefin Wyn

 

Cystadleuaeth ardderchog. Er taw dim ond saith a fentrodd arni, mae’r ystod o ffurfiau, o gyweiriau ac o gyfeiriadau yn galonogol iawn, ac yn adlewyrchu’n dda ar y sîn farddol Gymraeg, dybiwn i. Does dim un gerdd wan. Ac mae cadeiriau wedi eu hennill mewn eisteddfodau lleol ledled y wlad gan gerddi dipyn llai safonol na’r rhain.

Sŵ Afallon  Cân ddifyr dros ben yw hon, yn llawn o gyffyrddiadau dyfeisgar a chomig, ac yn un stribed o gyfeiriadau at ein chwedloniaeth ni. Rwy’n hoff iawn o’r dychan ysgafn hefyd sy’n awgrymu bod ceiniog go dda i’w hennill drwy ecsploetio’r cymeriadau a’r chwedlau hyn, ac mae’r ffaith taw Bedwyr, un o farchogion teyrngar Arthur, sy’n ein tywys ni drwy’r atyniadau yn ychwanegu at yr hiwmor a’r lliw.

Un awgrym. Beth am gerdd lai estynedig sy’n dethol yr ergydion gorau rhag i ambell linell (a jôc) wannach dynnu sylw’r darllenydd?

Mathew 5:5 Hyd yn oed os taw hen jôc sy’n cloi’r gerdd hon, mae ynddi rhyw uniongyrchedd syml a rhyw ddoethineb sinigaidd ond diymffrost. Y Bregeth ar y Mynydd sy’n cael ei ddychanu, wrth gwrs, ac yn benodol felly ‘Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.’ Mae’n gerdd ddigalon iawn, yn awgrymu taw anghyfiawnder ac anesmwythyd yw gwobr yr addfwyn dro ar ôl tro. Anlwc y bardd hwn yw bod beirdd eraill wedi dod â gweledigaeth ehangach i’w cerddi nhw y tro hwn.

Carnedd Meibion Owen Fel y mynydd a’r carnedd, mae rhyw gadernid anial yn perthyn i’r gerdd hon, a hynny o fwriad, wrth gwrs. Mae’r thema’n un gyfarwydd iawn, ac mae’r cyfeiriad amlwg iawn at gerdd Waldo ‘Preseli’ yn tanlinellu hynny wrth i’r bardd gydnabod taw’r reddf gyntefig i hawlio a tharfu a chwalu sy’n nodweddu dynion ein hoes ni eto fyth. Ac mae’r cyfeiriad at Feibion Owen yn cysgu, ‘gan wybod yn well’, ar ddiwedd y gerdd yn drawiadol
Rwy’n hoff iawn o’r llinellau byrion a diwastraff, ond mae’n anodd creu gwreichionyn gwreiddiol gyda’r union eiriau a ddefnydiwyd dro ar ôl tro gan feirdd a ganodd i’r Preselau.

(Y Ferch a Gollodd ei Hawen a’i Harwrol Antur i’w Hachub)  Dyma gerdd fwyaf wreiddiol y gystadleuaeth – ac ar un ystyr fy hoff gerdd – wrth i’r bardd 25 oed geisio ailddarganfod y creadigrwydd naturiol hwnnw a nodweddai ei hysgrifennu pan oedd hi’n iau, er mwyn iddi gael dod yn arwr ei chwedl hi ei hun. Mae’r dweud mor ffraeth, mae’r hunan-adnabyddiaeth mor graff, ac mae rhai o’i llinellau unigol gyda’r gorau yn y gystadleuaeth.

Beth, felly, am weithio cerdd fwy cynnil, sy’ ddim yn dweud y cwbwl am bopeth, ond un sy’n glynu at y math o ddweud a dyfalu a’m swynodd i, e.e.
Yn araf un fe ddad-ddychmygais ddreigiau
Â’u hanfon i aeafu dan gwrlid angof.

Dyma nghyfle i gyfrwyo march y papur gwyn,
Gafael yn fy meiro’n arf,
A llethu ofn ac amheuaeth (a cliché)
I achub fy chwedl fy hun.

Mae hefyd angen ambell gywiriad iaith yma ac acw.

Celt  Awdl fer a graenus oedd hon, yn adrodd stori Branwen yn hynod o afaelgar. Yn wir, petasai’r ail ran gystal â’r gyntaf, mae'n debyg taw Celt fyddai pencampwr Penfro eleni. Mae’n trin llinellau seithsill a llinellau degsill yn ystwyth iawn, fel unedau unigol ac fel modd o lunio cymalau a brawddegau mwy estynedig.

Tuag at y diwedd mae’r canu’n mynd yn fwy cyffredinol a dadansoddol, yn ceisio crynhoi nodweddion neu wersi’r chwedl arswydus hon. Nid dyna, o bosib, yw gwaith barddoniaeth sy’n adrodd stori. Nid dyna wnaeth awdur y chwedl wreiddiol, wedi’r cwbwl. Ond mae dawn gan y bardd hwn o ran ei grefft a’i ddweud.

(Troednodyn anoracaidd: Mae angen i’r cynganeddwyr fod yn ofalus wrth wneud defnydd o drwydded farddol. Y cyfan mae’r collnod yn gwneud yn y llinell ‘ailafael’n y gyflafan’ yw tynnu sylw at y ffaith fod y bardd wedi methu gwasgu ei syniad mewn i saith sillaf. A fyddai ‘ailafael mewn cyflafan’ wedi gwneud y tro?)

Mewn Amgueddfa Chwedl fygythiol derwen Myrddin yw testun y gerdd hon, ac yn benodol canlyniadau ei symud hi o’i safle yn yr 80au.

Y bygythiad oedd y byddai Caerfyrddin yn boddi pe digwyddai hyn. Ni foddodd Caerfyrddin. Ond bu mewnlifiad o fath gwahanol, meddai’r bardd, ton o Seisnigrwydd, ‘gan adael yr ychydig yno wedyn/a’u bodolaeth yn bwdeli’. Am ddweud da! Cerdd ofalus yw hon yn cyfuno a chyfosod elfennau’r dderwen, y dŵr a’r bygythiad i’r Gymraeg, ac mae’n clymu’r cwbwl yn effeithiol yn ei bennill olaf.

Cerdd yn y wers rydd gynganeddol yw hon, ac mae rhannau campus ynddi, hyd yn oed os yw’r ddelwedd o don y Saesneg yn boddi’r Gymraeg yn un sydd wedi ei godro’n ddiarbed ers boddi Tryweryn, a dweud y gwir. Ac mae’r tinc rhethregol hefyd braidd yn adleisiol, ond beiau bach yw’r rhain. Cerdd dda iawn yw hon, ac roedd hi o fewn trwch blewyn i ennill y gystadleuaeth hon.

Llyn y Fan O holl gerddi’r gystadleuaeth, hon oedd yr un a aeth â mi i ryw fan llai diogel, yr un, ar un ystyr, a aeth â mi i fan mwy chwedlonol, a hynny drwy ddefnydd gofalus o’r diriaethol a’r haniaethol, y symud hwnnw rhwng yr hyn sy’n real a’r hyn sy’n rhith. Ry’ ni’n cychwyn yn Llyn y Fan gyda’r bardd yn teimlo llaid y llyn yn llithro rhwng ei fysedd, cyn dwyn yn ôl olygfeydd a lleoliadau o’r un chwedl – ac mae’n hawdd gwneud hynny gyda’r chwedl hon yn y dirwedd honno lle mae Esgair Llaethdy a Myddfai’n bodoli o hyd. Tristwch y gerdd yw na all y bardd ddal ei afael ar y llaid, mwy na’r ffarmwr ar ei wraig hud, mwy na ninnau ar y chwedl.
(Man a man dweud bod ‘eirias gynfyd’ yn rhy farddonllyd at fy nant i, a bod angen diweddglo mwy gwreiddiol, beth bynnag. Mae ‘blas y cynfyd’ i’w synhwyro yn y gerdd: does dim angen dweud hynny wrth y darllenydd ).
Mewn cystadleuaeth ardderchog, y gerdd loyw hon am Lyn y Fan sy’n mynd â hi.

Ceri Wyn Jones

Croeso i gystadleuaeth barddoniaeth Gŵyl Lyfrau PENfro 2017! Dyma eich cyfle i ennill gwobr o £300.

Yr ydym yn falch iawn i ddatgan taw beirniad ein cystadleuaeth eleni yw crwt o Aberteifi, sef Ceri Wyn Jones. Mae’n un o’r beirdd prin Ceri Wyn Joneshynny sydd wedi ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, yn y Bala ym 1997 ac yn Llanelli yn 2014. Enillodd hefyd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol (2009), ac ef bellach yw’r Meuryn, sef cyflwynydd a beirniad cyfres Y Talwrn ar BBC Radio Cymru.
Mae’n teithio ar hyd a lled y wlad (a thu hwnt) yn meuryna, cynnal gweithdai ac yn perfformio ei waith, ac mae ei gerddi wedi bod yn destunau gosod ar gyrsiau TGAU, Lefel ‘A’ a Gradd. Cyrhaeddodd ei unig gyfrol o gerddi ar gyfer oedolion, sef Dauwynebog, y rhestr fer o dri ar gyfer Llyfr y Flwyddyn 2008. Enillodd glod hefyd am ei gyfrolau ar gyfer plant (yn Gymraeg a Saesneg), ac ef oedd Bardd Plant Cymru 2003-04.
Yn 2009 cynrychiolodd Cymru yng Ngŵyl Ryngwladol y Smithsonian yn Washington D.C., ond mae’r un mor falch ei fod yn cael cynnal dosbarthiadau cynghanedd yn Aberteifi a phasio ymlaen i eraill y grefft a ddysgodd gan T. Llew Jones.
Bu’n bennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Dyffryn Teifi am dros ddegawd ac wedi hynny yn olygydd llyfrau Saesneg i Wasg Gomer yn Llandysul. Mae bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun fel awdur a darlledwr.

Cystadleuaeth Agored 2017

Beirniad : Y Prifardd Ceri Wyn Jones

Gwobrau: 1af - £300; 2il - £125; 3ydd- £75. Ffi gystadlu: £4 y gerdd

Dyddiad Cau: Dydd Sul, Gorffennaf 30ain, 2017.

Testun: Cerdd gaeth neu rydd (heb fod dros 40 o linellau) ar y thema ‘Chwedl’ neu ‘Chwedlau’

Cyhoeddir yr enillwyr ar ddydd Sadwrn, Medi 9fed, 2017, am 3.00 y prynhawn yn Neuadd y Dderwen. Caiff beirdd sy’n cyrraedd y rhestr fer gyfle i ddarllen eu gwaith o flaen Ceri Wyn a chynulleidfa.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un oed 16 neu hŷn. Dylai’r cerddi fod yn Gymraeg a heb eu cyhoeddi na’u cyflwyno i gystadlaethau cyfredol na chyhoeddiadau eraill.

Rhaid i’r cystadleuydd gyflwyno gwaith gwreiddiol ar bapur A4R , mewn gofod sengl , heb fod dros 40 llinell . Gweler RHEOLAU A MANYLION cystadlu.

SUT I ANFON EICH GWAITH:

1. AR LEIN

Defnyddiwch ein GWEFAN I GYFLWYNO EICH GWAITH  Cais ar lein 

Talwch eich ffi gystadlu drwy PayPal. Os nad oes gennych gyfrif PAYPAL fe wahoddir chi i greu un, neu talwch drwy ddefnyddio eich cerdyn dyled neu gredyd.

Dilynwch y cyfarwyddiadau ar sut i gyflwyno eich gwaith, sef mewn un ddogfen ffurf Word neu PDF ar gyfer pob cerdd unigol.

PEIDIWCH Â CHYNNWYS MANYLION PERSONOL gyda’r gerdd. Dylai pob cais fod yn ddienw.

Darllenwch y rheolau yn ofalus cyn cyflwyno eich cerdd / Rheolau

2. DRWY BOST.

Cyflwynwch dau gopi o bob cerdd, gan ddefnyddio tudalen gwahanol i bob copi.

Cofiwch roi teitl y gerdd ar ben y dudalen.

Ni ddylid cynnwys enw'r cystadleuydd, nac unrhyw wybodaeth amdani/o.

Llenwch y ffurflen gais Lawr lwythwch fan hyn Cysylltir â phob enillydd drwy e-bost.

Rhaid anfon ffi cystadlu gywir gyda phob cais, sef £4 am bob cerdd unigol. Dylai sieciau (sterling yn unig) cael eu gwneud allan i Ŵyl Lyfrau PENfro.

Anfonwch eich gwaith, gyda’r arian a’r ffurflen gais at Gystadleuaeth Barddoniaeth PENfro, Plasty Rhosygilwen, Rhoshill, Sir Benfro SA432TW

Ni allwn ddychwelyd unrhyw gerddi , felly gwnewch gopi o’ch gwaith. Ni fydd unrhyw ohebiaeth ynglŷn â’r gwaith ac fe fydd penderfyniad y beirniad yn derfynol.

Bydd unrhyw gais sydd ddim yn cadw at y rheolau yn cael ei wahardd.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi yn
• Gosod teitl eich cerdd ar eich ffurflen gais
• Anfon dau gopi o bob cerdd gan roi un gerdd ar un tudalen.
• Sicrhewch fod eich cerddi yn gwbl ddienw .Dylai eich enw a chyfeiriad ymddangos ar y ffurflen gais yn unig.
Cyhoeddir enwau’r enillwyr ar ddydd Sadwrn Medi 9fed am 3.00 y prynhawn yng Ngŵyl Lyfrau PENfro ac ar y wefan wedi hynny.
Eiddo'r awduron yw’r hawlfraint, ond fe fydd gan Ŵyl Lyfrau PENfro yr hawl i gyhoeddi ‘r gwaith llwyddiannus ar ei gwefan.

Ni ellir gwrthwynebu neu gwyno’n erbyn dyfarniad y beirniad.

Sponsors 2017

Back to top